RHAGLEN CASNEWYDD A RhCT 360

Gyda chefnogaeth gan gronfa Adnewyddu Llywodraeth y DU, mae Volunteering Matters yn dod â grŵp deinamig o bartneriaid ynghyd i gyflwyno rhaglenni Casnewydd a RhCT 360. Y nod ar y cyd yw helpu pobl, o ymadawyr ysgol ar ddechrau eu llwybrau gyrfäol i oedolion hŷn sydd angen cefnogaeth i wella rhagolygon eu cyflogaeth.

BETH ALLWN NI EI GYNNIG I’CH BUSNES?

Mae Gwirfoddoli Gweithwyr yn cynnig cymorthdal cyfleoedd gwirfoddoli i weithlu busnesau a diwydiannau o bob maint yn gweithredu yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Chasnewydd yn ystod y 6 mis cyntaf o 2022.

  • Codi ymwybyddiaeth o’ch brand ac adeiladu cysylltiadau gyda chwsmeriaid
  • Gwella ymrwymiad gweithwyr gyda menter CSR
  • Datblygu sgiliau gweithwyr a thimau â gwell cysylltiad
  • Cefnogi a thrawsnewid cymunedau lleol

Mae ein tîm prosiect ymroddedig yn barod i weithio gyda’ch busnes i rymuso a galluogi eich gweithlu i wirfoddoli fel timau neu unigolion yn y gymuned leol i rannu arbenigedd ac uwchsgilio pobl yng Nghasnewydd a RhCT sy’n ceisio dychwelyd i waith.

trefnwch alwad

I ganfod sut all eich busnes gymryd rhan, archebwch sgwrs 30 munud gyda’n tîm ni

CYNNIG ‘CAEL Y WYBODAETH’

Yn ychwanegol, bydd ein cydweithwyr yn ‘Cael y Wybodaeth’ (Get the Gen) hefyd yn gweithio â busnesau lleol i dynnu sylw at arferion recriwtio amrywiol i gefnogi cyrraedd cronfa dalent eang. Os hoffech ddysgu rhagor ynghylch sut i wneud eich man gwaith yn fwy cynhwysol a chefnogi gweithlu amrywiol, nodwch eich enw ar gyfer un o’n gweithdai.

Gyda 4, neu hyd yn oed 5, cenhedlaeth bellach yn gweithio gyda’i gilydd, ni fu erioed amser pwysicach i gael hyn yn iawn.

Archebwch eich lle yng ngweithdy ‘Cael y Wybodaeth’ (Get the Gen)

CEFNDIR VOLUNTEERING MATTERS A GWIRFODDOLI GWEITHWYR

Rydym yn dod â phobl at ei gilydd i oresgyn rhai o broblemau mwyaf cymhleth cymdeithas drwy bŵer gwirfoddoli. Dylai pawb yn y DU gael y cyfle i ffynnu a dylem oll chwarae ein rhan i ffurfio cymdeithas, gan gynnwys busnesau a gweithluoedd.

Mae gan ein tîm Gwirfoddoli Gweithwyr dros 25 mlynedd o brofiad o greu cyfleoedd gwirfoddoli i fusnesau wedi eu rheoli yn genedlaethol a’u cyflwyno yn lleol. O ddyddiau adeiladu tîm unigryw/ i bartneriaethau hir-dymor gydag elusennau lleol, ysgolion, colegau a phrosiectau rhyngwladol o Volunteering Matters. Rydym wedi cyflawni hyn gyda nifer fawr o gleientiaid hirsefydlog megis Aviva, Grid Cenedlaethol, Discovery Inc, KPMG, Deutsche Bank, and QBE.

“Roedd yn un o’r sesiynau gwirfoddoli gorau i mi ei Gwneud!”

Roedd 95% o gyfranogwyr yn un o’n rhaglenni 2021 yn teimlo bod y diwrnod gwirfoddoli yn ymarfer adeiladu tîm effeithiol.

Ewch i gael eich gweithlu yn gwirfoddoli yn y gymuned gyda chefnogaeth lawn gan ‘Mae Gwirfoddoli yn Cyfri’ – Archebwch alwad nawr!

 

Wales Programme

Interested in making a difference?

GET IN TOUCH